Mae'r gyfres hon o deithiau sain am ddim yn rhannu gwybodaeth, straeon a synau unigryw wedi'u hysbrydoli gan ein tirweddau lleol niferus - coetir cymunedol Llangoed, castell Aberlleiniog a thraeth Lleiniog.

Mae'r teithiau wedi'u cynllunio i'w profi wrth i chi gerdded trwy'r tirweddau, ond gellir eu gwrando hefyd o gartref, fel y byddech chi'n gwrando ar bodlediad.

MWY AM
TAITHIAU SAIN ABERLLEINIOG

Gyda diolch i Gronfa Hadau Cynghrair Seiriol, mewn cydweithrediad â Medwrn Môn, am gefnogi'r gyfres gyntaf hon o deithiau sain. Cynhyrchwyd y daith hon mewn cydweithrediad â GeoMôn UNESCO Geopark Byd-eang.